|
Teitl y ddeiseb: Rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i greu cynllun hyfyw a chynaliadwy ar gyfer dyfodol hirdymor campws Llambed Geiriad y ddeiseb: Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi cynllun i ddod â’r holl addysgu israddedig ar ei champws yn Llanbedr Pont Steffan i ben erbyn mis Medi 2025, sef penderfyniad a fyddai’n dileu bron i 200 mlynedd o ran rôl Llanbedr Pont Steffan fel canolfan addysg uwch, ac yn effeithio’n andwyol ar y gymuned leol. Fel cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr, a chefnogwyr, rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i ddiogelu etifeddiaeth Llanbedr Pont Steffan, ac ymrwymo i ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y campws hanesyddol hwn. Mae Llanbedr Pont Steffan nid yn unig yn sefydliad prifysgol hynaf Cymru ond hefyd yn biler yn ei hanes addysgol a diwylliannol. Drwy ganiatáu i addysgu israddedig ddod i ben, byddai Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn tanseilio hanfod cenhadaeth Llanbedr Pont Steffan, yn gwanhau’r economi leol, ac yn dileu ei rôl hanesyddol fel canolfan ddysgu. Mae tref Llambed, cymuned y cyn-fyfyrwyr, a phobl Cymru yn haeddu gwell.
Ein nod: Rydym yn annog Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i atal y terfyn arfaethedig ar addysgu israddedig yn Llanbedr Pont Steffan, ac yn lle hynny i weithio gyda’r holl randdeiliaid i greu cynllun hyfyw a chynaliadwy ar gyfer y campws. Rhaid i hyn gynnwys buddsoddiad sylweddol mewn cyrsiau newydd, mewn marchnata, ac mewn ymdrechion i recriwtio myfyrwyr er mwyn sicrhau perthnasedd ac apêl Llanbedr Pont Steffan ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. |
Sefydlwyd Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ym 1822 fel Coleg Dewi Sant. Ym 1996 newidiwyd yr enw i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Yn 2010, unwyd â Choleg Prifysgol y Drindod yng Nghaerfyrddin i greu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn 2013, unwyd Prifysgol Fetropolitan Abertawe â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae tri champws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin ac Abertawe.
Ar 23 Ionawr 2025, cyhoeddodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y byddai’n symud cyrsiau’r dyniaethau o Lanbedr Pont Steffan i gampws Caerfyrddin. Byddai hyn yn dod i rym ym mis Medi 2025. Ni fydd unrhyw ddarpariaeth a addysgir yn weddill ar gampws Llanbedr Pont Steffan, a bydd myfyrwyr yn cwblhau eu rhaglen yng Nghaerfyrddin.
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn datgan y byddai angen tua 1,250 o fyfyrwyr amser llawn ar y campws i gynnal darpariaeth ar raddfa campws Llanbedr Pont Steffan. Mae 92 o fyfyrwyr y dyniaethau ar gampws Llanbedr Pont Steffan.
Ar 4 Rhagfyr, dywedodd Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, yn y Cyfarfod Llawn ei bod yn cydnabod “y pryder y gallai’r cyhoeddiad hwn gael effaith negyddol ar yr economi leol, yn enwedig canol y dref yn Llanbedr Pont Steffan, a bydd Gweinidogion Cymru […] yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â’r brifysgol wrth i gynlluniau ddatblygu”.
Nododd y Gweinidog hefyd fod “prifysgolion yng Nghymru yn sefydliadau ymreolaethol, ac ni fyddai'n briodol i Weinidogion Cymru ymyrryd yn eu materion academaidd, megis darpariaeth cyrsiau a lleoliad eu campws”. Ychwanegodd fod y brifysgol “yn ymateb yn strategol i heriau i ddiogelu cyrsiau dyniaethau yn eu sefydliad” ac “mai dim ond 92 o israddedigion amser llawn sydd yn Llanbedr Pont Steffan bellach, sy’n llai na’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd Cymru, felly mae angen inni fod yn realistig am y sefyllfa y mae'r brifysgol yn ei hwynebu”.
Wrth ateb cwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Chwefror 2025, dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch:
Mae diwygio eisoes ar y gweill yng Nghymru gyda deddfwriaeth newydd ar waith a chreu Medr [y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil], ac rwyf am wneud y gorau o'r cyfle arwyddocaol hwn i drawsnewid y sector trwy siarad â chymaint o bobl â phosibl. Rwyf wedi gwahodd pob is-ganghellor i gyfarfod bord gron yn yr wythnos ar ôl y toriad am fwy o drafodaethau am yr heriau presennol sy'n wynebu'r sector.
Mewn datganiad ysgrifenedig ar 18 Chwefror 2025, cyhoeddodd y Gweinidog:
Er mwyn cefnogi ein prifysgolion, rwyf eisoes wedi cynyddu'r cap ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26, gan ddarparu hyd at £21.9m mewn incwm ychwanegol i brifysgolion, ac rwyf hefyd wedi darparu £10m yn ychwanegol mewn cyllid grant i'r sector. I gydnabod yr heriau ariannol sylweddol y mae addysg uwch yn eu hwynebu, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y bydd gwerth £18.5m o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cefnogi prifysgolion gyda chynnal a chadw ystadau a phrosiectau digidol i leihau costau gweithredu, tra hefyd yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol a sicrhau bod cyfleusterau'n parhau i fod yn addas ar gyfer darparu profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr a chyflawni ymchwil cwbl arloesol. Rwyf hefyd wedi gofyn i Medr adrodd yn ôl i mi ar sut mae'r cyllid hwn wedi'i ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl i gyflawni arbedion at y dyfodol i leddfu'r heriau ariannol presennol.
Mae nifer o brifysgolion eraill yng Nghymru yn y broses o ymgynghori ar doriadau i staff a chyrsiau yng nghyd-destun pwysau ariannol cynyddol.
Ar 28 Ionawr 2025, fe wnaeth Prifysgol Caerdydd ddechrau ymgynghoriad ar y toriad arfaethedig o 400 o staff academaidd (cyfwerth ag amser llawn) (7 y cant o’r holl weithlu) a’r posibilrwydd o gau ysgolion a phynciau, ac uno ysgolion. Roedd y cynigion yn cynnwys:
§ terfynu pynciau a rhaglenni mewn Hanes yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Chyfieithu, Cerddoriaeth, Nyrsio, a Chrefydd a Diwinyddiaeth;
§ cynyddu cymarebau myfyrwyr a staff ledled y Brifysgol, wrth adolygu agweddau at ddysgu, addysgu ac asesu, a symleiddio prosesau biwrocrataidd; a
§ chreu Ysgol y Gwyddorau Naturiol; Ysgol Gwyddor Data, Cyfrifiadura a Mathemateg; Ysgol y Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol; ac Ysgol y Dyniaethau Byd-eang drwy uno amryw gyrsiau cyfredol.
Ar 19 Chwefror 2025, cyhoeddodd Prifysgol De Cymru ymgynghoriadar gau 'nifer fach' o'u cyrsiau ar ôl i'r holl fyfyrwyr presennol gwblhau eu hastudiaethau a gostyngiad o oddeutu 90 o rolau (tua 3 y cant o gyfanswm y gweithlu). Nid oes rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd am y meysydd y bydd hyn yn effeithio arnynt.
Hefyd ar 19 Chwefror 2025, dywedodd Prifysgol Bangorwrth staff mewn e-bost mai ei nod yw torri tua 200 o swyddi (tua 10 y cant o gyfanswm y gweithlu) i wneud arbedion o £15m.
Ar hyn o bryd mae dwy ddeiseb yn agored mewn perthynas â thoriadau i brifysgolion yng Nghymru. Mae’r ddwy yn ymwneud â Phrifysgol Caerdydd ac mae’r ddwy wedi pasio’r nifer o lofnodion sydd eu hangen i’r Pwyllgor Deisebau eu trafod:
§ Helpu Prifysgol Caerdydd i gadw ei chyrsiau gradd Ieithoedd Modern
§ Galluogi Prifysgol Caerdydd i gadw'r cwrs gradd Nyrsio
Ar 17 Chwefror 2025, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner, yn ei gwahodd i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar ailstrwythuro wedi dod i ben.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |